Mae Met Caerdydd yn cynnig cyfleoedd gwych i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch wneud rhan sylweddol o’ch gradd trwy gyfrwng y Gymraeg mewn sawl ysgol academaidd.
Dewch i ddarganfod mwy am y manteisio o astudio dy gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd.
Mae Met Caerdydd yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy’n dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Trwy astudio yma byddwch yn rhan o’r teulu yma, ac yn derbyn cyfleoedd i fanteisio ar sawl cyfle i ddatblygu eich Cymreictod.
Blogiau Myfyrwyr Iaith Gymraeg
Mae blogiau ein myfyrwyr yn cynnig golwg fanwl, ddilys ar fywyd Met Caerdydd o safbwynt ein myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.