Skip to content

Ysgoloriaethau Gradd Ymchwil

Archwiliwch ysgoloriaethau ymchwil ac ysgoloriaethau sydd ar gael ym Met Caerdydd ar hyn o bryd. Mae pob cyfle yn cynnwys manylion am gymhwysedd, cyllid, a sut i wneud cais.

Cystadleuaeth Ysgoloriaeth WGSSS 2026 Ysgol Graddedigion Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol

Mae’n bleser gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd, a'r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd gynnig ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) sydd wedi’u hariannu’n llawn yn Llwybrau Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg, Addysg ac Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd, a fydd yn dechrau ym mis Hydref 2026.

Dylai ceisiadau gyd-fynd yn fras â diddordebau ymchwil staff academaidd o fewn y llwybrau/ysgolion a chael eu trafod â darpar oruchwylwyr ymhell cyn gwneud cais. Ni fydd ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt wedi cysylltu a chael cefnogaeth goruchwylwyr posibl yn cael eu hystyried. Gellir gweld diddordebau ymchwil staff yma:

Os oes gennych ymholiad am Lwybr penodol, cysylltwch â'r Arweinwyr Llwybr:

Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer: Yr Athro Lynne Evans levans@cardiffmet.ac.uk

Seicoleg: Dr Rhiannon Phillips rphillips2@cardiffmet.ac.uk

Addysg: Yr Athro Steve Cooper smcooper@cardiffmet.ac.uk

Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd: Dr Robert Mayr rmayr@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, e-bostiwch ESSHRI@cardiffmet.ac.uk

Meini Prawf Mynediad:

I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.

Hyd yr astudiaeth:

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).     Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.

Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio:

Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.

Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys:

Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

Asesu:

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, mae’n bosib bydd gofyn i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr.

Sut i wneud cais:

Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 12yp, 27/11/25, fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Mae hwn yn ddyddiad cau mewnol sydd cyn dyddiad cau WGSSS at ddiben rhoi adborth i ymgeiswyr y gellir ei ymgorffori yn eu cais terfynol a'u cyflwyno ar gyfer dyddiad cau WGSSS sef 11eg o Ragfyr 2025. O ganlyniad i nifer y ceisiadau a dderbyniwyd ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.

Dylid cyflwyno'r holl geisiadau drwy e-bostio ESSHRI@cardiffmet.ac.uk gyda'r llinell bwnc WGSSS Gen ac enw'r llwybr perthnasol (Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg, Addysg neu Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd).

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:   

  • Ffurflen Gais yr WGSSS
  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen).
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)

Cyllid:

Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar hyn o bryd am gyfnod llawn amser 2025-26) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. Croesewir ceisiadau llawn amser a rhan amser.

Os oes gennych chi anabledd, mae’n bosib y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.

Efrydiaeth Ymchwil PhD (llawn amser) - Dysgu proffesiynol trawsffiniol yn y cwricwlwm Iechyd a Lles ar draws Cymru a'r Alban .

Pecyn: bwrsariaeth £20,780 am flwyddyn ynghyd â ffioedd dysgu (ar gyfradd yr UE/DU). Mae symiau'r lwfans yn unol â chyfraddau UKRI. Ar gyfer 2025/26 mae hyn wedi'i osod ar £20,780. Ar gyfer blynyddoedd diweddarach, bydd ariantal y ddoethuriaeth yn cyfateb i'r rhai a amlinellir yn flynyddol gan UKRI.

Teitl y Prosiect: Dysgu proffesiynol trawsffiniol yn y cwricwlwm Iechyd a Lles ledled Cymru a'r Alban.

Disgrifiad o'r Prosiect: Mae’r system addysgu yng Nghymru a'r Alban wedi bod yn destun newid sylweddol gyda chyflwyniad Cwricwlwm i Gymru 2022 a Chwricwlwm ar gyfer Rhagoriaeth yr Alban. Nod y ddau yw meithrin sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i fyw a gweithio mewn byd sy’n newid, gan roi mwy o bwyslais ar ddylanwad athrawon a gwaith cynllunio cwricwlwm. Un o feysydd allweddol y diwygiadau hyn yw Iechyd a Llesiant, sy'n cyfuno elfennau o addysg gorfforol, addysg bersonol a chymdeithasol, a maeth. Er bod y ddwy wlad amcanion tebyg, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi’i wneud i brofiadau athrawon o’r newidiadau hyn - yn enwedig mewn perthynas â'u dysgu proffesiynol, eu hyder, a'u hunaniaethau proffesiynol sy'n esblygu.

Bydd y prosiect doethurol hwn yn ymchwilio i anghenion dysgu proffesiynol athrawon uwchradd sy’n dysgu Iechyd a Lles yng Nghymru a'r Alban. Bydd y prosiect yn archwilio’n feirniadol brofiadau athrawon o ddiwygio’r cwricwlwm, yn archwilio eu hunaniaethau proffesiynol, ac yn dylunio a gwerthuso pecyn dysgu proffesiynol dwyieithog ar y cyd sy’n meithrin cydweithio trawsffiniol.

Bydd y traethawd ymchwil yn cael ei ysgrifennu yn Gymraeg, gan gyfrannu at dwf ymchwil addysgol cyfrwng Cymraeg a chefnogi amcanion y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd dull cymysg o ddulliau yn cael ei fabwysiadu, gan gyfuno astudiaethau meintiol ac ansoddol gydag athrawon yn y ddwy wlad.

Meini prawf:

Meini Prawf Hanfodol

  • Yn rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig (bydd rhaid cwblhau'r traethawd ymchwil a'r allbynnau cysylltiedig yn Gymraeg)
  • Gradd israddedig dda (anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch) a/neu radd Meistr mewn Chwaraeon, Addysg neu faes cysylltiedig
  • Tystiolaeth o ysgrifennu academaidd cryf a gallu dadansoddol
  • Dealltwriaeth amlwg o theori, polisi neu ymarfer addysgol sy'n berthnasol i'r maes ymchwil arfaethedig.
  • Gallu amlwg i gynllunio, cynnal a chwblhau prosiectau ymchwil annibynnol .
  • Ymwybyddiaeth o ddulliau ymchwil mewn ymchwil seiliedig ar addysg .
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf, gyda'r gallu i weithio'n annibynnol a chwrdd â therfynau amser
  • Y gallu i weithio ar y cyd fel rhan o gymuned ymchwil neu dîm academaidd
  • Ymrwymiad i gyfrannu at ymchwil ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ym maes addysg

Meini Prawf Dymunol

  • Profiad blaenorol o ymchwil ym maes addysg, er enghraifft drwy draethawd hir Meistr neu brosiect a ariennir
  • Yn gyfarwydd â system addysg Cymru a/neu'r Alban, ei chwricwlwm, neu gyd-destun polisi
  • Ymgysylltiad â neu wedi cyfrannu at weithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu addysg uwch cyfrwng Cymraeg
  • Y gallu i ddefnyddio meddalwedd sy'n gysylltiedig ag ymchwil, fel NVivo, SPSS, neu offer tebyg
  • Tystiolaeth o ledaenu ymchwil (e.e. cyflwyniadau mewn cynhadledd, cyhoeddiadau, neu adroddiadau)
  • Diddordeb amlwg mewn hyrwyddo addysg ac ysgolheictod yn y Gymraeg

Tîm Goruchwylio: Dr Lowri Edwards (DoS), Dr Anna Bryant, Yr Athro Rhodri Lloyd

Cais: Dylai ymgeiswyr ddarparu datganiad personol (uchafswm o 1000 o eiriau) yn amlinellu eich profiad, rhesymau dros wneud cais ac amlinelliad byr o'ch syniadau cychwynnol ar y maes ymchwil. Peidiwch â chyflwyno cynnig ymchwil ffurfiol. Anfonwch eich datganiad personol a'ch CV llawn i: Laura Lind (llind@cardiffmet.ac.uk).

Rhowch enw, cyfeiriad a statws dau ganolwr sy'n fodlon rhoi geirda i chi. Dylai un fod yn gyflogwr presennol neu fwyaf diweddar (oni bai nad ydych wedi gweithio o'r blaen) ac un arall sy'n gallu disgrifio eich addasrwydd ar gyfer y swydd hon. Fel arfer, Byddwn yn gofyn am eirdaon ar gyfer yr ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd i gyfweliad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod y prosiect yn fanylach cyn gwneud cais, cysylltwch â Dr Lowri Edwards ar LCEdwards2@cardiffmet.ac.uk

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 9 Ionawr 2026. Cynhelir cyfweliadau yr wythnos sy’n dechrau 16 Chwefror 2026.